{"id":96944,"date":"2018-10-25T15:51:00","date_gmt":"2018-10-25T15:51:00","guid":{"rendered":"http:\/\/mostafa.openonline.co.uk\/?guid=420a5707398b6b1aef2ba18fd802e332"},"modified":"2018-10-25T15:51:00","modified_gmt":"2018-10-25T15:51:00","slug":"news-story-100-diwrnod-i-fynd-i-gyflwynoch-ffurflen-dreth-ar-gyfer-201718","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/mostafa.openonline.co.uk\/?p=96944","title":{"rendered":"News story: 100 diwrnod i fynd i gyflwyno\u2019ch Ffurflen Dreth ar gyfer 2017 i 2018"},"content":{"rendered":"<div class=\"govspeak\">\n<p>Gall trethdalwyr lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol mor gynnar \u00e2 6 Ebrill. Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn aros tan ar \u00f4l y Nadolig i\u2019w llenwi. Y llynedd, llenwodd dros 11 miliwn o gwsmeriaid Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2016\/17, a llwyddodd 10.7 miliwn ohonynt i wneud hynny mewn pryd. Cyflwynodd 4,852,744 o gwsmeriaid eu Ffurflen Dreth ym mis Ionawr 2018 (44.8% o\u2019r cyfanswm) a 758,707 o gwsmeriaid ar 31 Ionawr.<\/p>\n<p>Mae 100 diwrnod i fynd tan y dyddiad cau ar 31 Ionawr 2019, ond does dim byd yn bod ar lenwi\u2019ch Ffurflen Dreth ymlaen llaw. Gallwch ddysgu faint o dreth sydd arnoch a\u2019i thalu cyn y dyddiad cau &#8211; un peth yn llai ar eich rhestr felly dros y cyfnod prysur.<\/p>\n<p>Meddai Mel Stride, yr Ysgrifennydd Ariannol i\u2019r Trysorlys:<\/p>\n<p>\u201cY llynedd, llenwodd dros 11 miliwn o drethdalwyr eu Ffurflenni Treth Hunanasesiad ac o ganlyniad i hynny, cafwyd refeniw o \u00a332.7 biliwn &#8211; y swm uchaf erioed. Ac mae\u2019r arian hwnnw\u2019n ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.<\/p>\n<p>\u201cMae cyfran sylweddol o\u2019n Ffurflenni Treth Hunanasesiad yn dod oddi wrth weithwyr hunangyflogedig a busnesau bach, ac mae\u2019r llywodraeth yn ymrwymedig i\u2019w helpu a lleihau eu baich gweinyddol. Gallwch gyflwyno\u2019ch Ffurflen Dreth a rheoli\u2019ch treth ar-lein yn hawdd ac yn hwylus drwy\u2019ch Cyfrif Treth Personol.\u201d<\/p>\n<p>Meddai Angela MacDonald, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:<\/p>\n<p>\u201cEr bod y dyddiad cau 100 diwrnod i ffwrdd, mae llawer ohonom yn ei gadael hi tan fis Ionawr i ddechrau arni. Mae amser yn hedfan dros yr \u0175yl, ond eto mae\u2019r dasg o lenwi\u2019ch Ffurflen Dreth o\u2019ch blaen o hyd.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni am helpu pobl i gael eu Ffurflenni Treth yn iawn. Drwy ddechrau ar y broses yn gynnar, gallwch ddod o hyd i\u2019r holl wybodaeth fydd ei hangen arnoch i gyflwyno\u2019ch Ffurflen Dreth yn ddiffwdan mewn pryd.\u201d<\/p>\n<p>Mae treth yn cael ei didynnu\u2019n awtomatig o\u2019r rhan fwyaf o gyflogau, pensiynau neu gynilion trethdalwyr y DU. Ond, mae\u2019n rhaid i Ffurflen Dreth Hunanasesiad gael ei llenwi bob blwyddyn gan bobl neu fusnesau sydd ddim yn cael treth wedi\u2019i didynnu\u2019n awtomatig, neu sydd o bosibl wedi ennill incwm ychwanegol heb ei drethu.<\/p>\n<p>Y llynedd, cyflwynodd 93% o gwsmeriaid eu Ffurflen Dreth ar-lein &#8211; y ganran uchaf erioed &#8211; ac mae CThEM yn rhoi cryn gymorth i unigolion sydd angen llenwi\u2019u Ffurflen Dreth. Mae <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/guidance\/help-and-support-for-self-assessment\">ffilmiau a gweminarau<\/a> ar gael sy\u2019n dangos pob cam o\u2019r broses, ac mae arweiniad arbennig ar gael i wahanol fathau o unigolion.<\/p>\n<p>Mae help i\u2019w gael hefyd ar wefan <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/cofrestru-ar-gyfer-a-chyflwynoch-ffurflen-dreth-hunanasesiad\">GOV.UK<\/a> eu gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM ar 0300 200 1900.<\/p>\n<p>Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth ar bapur yw 31 Hydref 2018, a\u2019r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth ar-lein, a thalu unrhyw dreth sy\u2019n weddill, yw 31 Ionawr 2019. Gall cwsmer wynebu isafswm cosb o \u00a3100 am gyflwyno\u2019r Ffurflen Dreth yn hwyr.<\/p>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ewch ati nawr i lenwi\u2019ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2017\/18 yn hytrach na\u2019i gadael tan y funud olaf &#8211; dyma gyngor Cyllid a Thollau EM (CThEM).<\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[13],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/mostafa.openonline.co.uk\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/96944"}],"collection":[{"href":"https:\/\/mostafa.openonline.co.uk\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/mostafa.openonline.co.uk\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mostafa.openonline.co.uk\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mostafa.openonline.co.uk\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=96944"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/mostafa.openonline.co.uk\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/96944\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":96953,"href":"https:\/\/mostafa.openonline.co.uk\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/96944\/revisions\/96953"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/mostafa.openonline.co.uk\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=96944"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/mostafa.openonline.co.uk\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcategories&post=96944"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/mostafa.openonline.co.uk\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Ftags&post=96944"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}